Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I Iedwthwn, yr arweinydd cerdd. Salm Dafydd. [1] Dyma fi'n penderfynu, “Dw i'n mynd i wylio fy hun a pheidio dweud dim byd i bechu. Dw i'n mynd i gau fy ngheg tra dw i yng nghwmni pobl ddrwg.” |
| 2 |
| Roeddwn i'n hollol dawel, yn brathu fy nhafod a dweud dim. Ond roeddwn i'n troi'n fwy a mwy rhwystredig. |
| 3 |
| Roedd y tensiwn yno i yn mynd o ddrwg i waeth. Roeddwn i'n methu ymatal. A dyma fi'n dweud: |
| 4 |
| “O ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt? faint o amser sydd gen i ar ôl? Bydda i wedi mynd mewn dim o amser! |
| 5 |
| Ti wedi gwneud bywyd mor fyr. Dydy oes rhywun yn ddim byd yn dy olwg di. Mae bywyd y cryfaf yn mynd heibio fel tarth!” Saib |
| 6 |
| Mae pobl yn pasio trwy fywyd fel cysgodion. Maen nhw'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain, heb wybod pwy fydd yn ei gymryd yn y diwedd. |
| 7 |
| Beth alla i bwyso arno, felly, O ARGLWYDD? Ti dy hun ydy fy unig obaith i! |
| 8 |
| Achub fi rhag canlyniadau fy ngwrthryfel. Paid gadael i ffyliaid wneud hwyl ar fy mhen. |
| 9 |
| Dw i'n fud, ac yn methu dweud dim o achos beth rwyt ti wedi ei wneud. |
| 10 |
| Plîs paid dal ati i'm taro! Dw i wedi cael fy nghuro i farwolaeth bron! |
| 11 |
| Ti'n disgyblu pobl mor llym am eu pechodau, er mwyn i'r ysfa i bechu ddiflannu fel gwyfyn yn colli ei nerth. Ydy, mae bywyd pawb fel tarth! Saib |
| 12 |
| Clyw fy ngweddi, O ARGLWYDD. Gwranda arna i'n gweiddi am help; paid diystyru fy nagrau! Dw i fel ffoadur, yn dibynnu arnat ti. Fel fy hynafiaid dw i angen dy help. |
| 13 |
| Stopia syllu mor ddig arna i. Gad i mi fod yn hapus unwaith eto, cyn i mi farw a pheidio â bod. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/039.mp3
150
39