Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. I Ddafydd.0 Ateb fi pan alwaf, O Dduw fy nghyfiawnder! Pan oeddwn mewn cyfyngder, gwaredaist fi; bydd drugarog wrthyf, a gwrando fy ngweddi. |
| 2 |
| Bobl, am ba hyd y bydd fy ngogoniant yn warth, ac y byddwch yn caru gwagedd ac yn ceisio celwydd? Sela. |
| 3 |
| Deallwch fod yr ARGLWYDD wedi neilltuo'r ffyddlon iddo'i hun; y mae'r ARGLWYDD yn gwrando pan alwaf arno. |
| 4 |
| Er i chwi gynddeiriogi, peidiwch phechu; er i chwi ymson ar eich gwely, byddwch ddistaw. Sela. |
| 5 |
| Offrymwch aberthau cywir, ac ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD. |
| 6 |
| Y mae llawer yn dweud, "Pwy a ddengys i ni ddaioni?" Cyfoded llewyrch dy wyneb arnom, ARGLWYDD. |
| 7 |
| Rhoddaist fwy o lawenydd yn fy nghalon na'r eiddo hwy pan oedd llawer o u375?d a gwin. |
| 8 |
| Yn awr gorweddaf mewn heddwch a chysgu, oherwydd ti yn unig, ARGLWYDD, sy'n peri imi fyw'n ddiogel. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/004.mp3
150
4