Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd. [1] O Dduw, ateb fi pan dw i'n galw arnat! Ti ydy'r un sy'n achub fy ngham! Dw i mewn argyfwng, ond gelli di ddod â fi allan. Dangos drugaredd ata i, a gwrando ar fy ngweddi. |
| 2 |
| “Chi bobl feidrol, am faint mae fy enw i gael ei sarhau? Am faint ydych chi'n mynd i roi'ch bryd ar bethau diwerth, a dilyn pethau twyllodrus?” Saib |
| 3 |
| Deallwch fod yr ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon iddo'i hun! Mae'r ARGLWYDD yn clywed pan dw i'n galw arno. |
| 4 |
| Dylech chi grynu mewn ofn, a stopio pechu! Myfyriwch ar y peth ar eich gwely, a dechreuwch wylo. |
| 5 |
| Dewch â chyflwyno'r aberthau iawn iddo; trowch a trystio'r ARGLWYDD. |
| 6 |
| Mae llawer yn gofyn, “Pryd welwn ni ddyddiau da eto?” O ARGLWYDD, wnei di fod yn garedig aton ni? |
| 7 |
| Gwna fi'n hapus eto, fel yr adeg pan mae'r cnydau ŷd a grawnwin yn llwyddo. |
| 8 |
| Bydda i'n gallu gorwedd i lawr a chysgu'n dawel, am dy fod ti, O ARGLWYDD, yn fy nghadw i'n saff. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/004.mp3
150
4