1
1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.0 Bm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri.
2
Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog, allan o'r mwd a'r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau'n ddiogel.
3
Rhoddodd yn fy ngenau gn newydd, cn o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
4
Gwyn ei fyd y sawl sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD, ac nad yw'n troi at y beilchion, nac at y rhai sy'n dilyn twyll.
5
Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw, yw'r rhyfeddodau a wnaethost, a'th fwriadau ar ein cyfer; nid oes tebyg i ti! Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd, ond maent yn rhy niferus i'w rhifo.
6
Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm rhoddaist imi glustiau agored ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod.
7
Felly dywedais, "Dyma fi'n dod; y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf
8
fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw, a bod dy gyfraith yn fy nghalon."
9
Bm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr; nid wyf wedi atal fy ngwefusau, fel y gwyddost, O ARGLWYDD.
10
Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon, ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth; ni chelais dy gariad a'th wirionedd rhag y gynulleidfa fawr.
11
Paid tithau, ARGLWYDD, ag atal dy dosturi oddi wrthyf; bydded dy gariad a'th wirionedd yn fy nghadw bob amser.
12
Oherwydd y mae drygau dirifedi wedi cau amdanaf; y mae fy nghamweddau wedi fy nal fel na allaf weld; y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen, ac y mae fy nghalon yn suddo.
13
Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD; O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.
14
Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd, ar y rhai sy'n ceisio difa fy mywyd; bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi gael eu troi yn eu holau mewn dryswch.
15
Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, "Aha! Aha!" arnaf gael eu syfrdanu gan eu gwaradwydd.
16
Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di lawenhau a gorfoleddu ynot; bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth ddweud yn wastad, "Mawr yw'r ARGLWYDD."
17
Un tlawd ac anghenus wyf fi, ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf. Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd; fy Nuw, paid ag oedi!
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004