I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Ar ôl disgwyl yn frwd i'r ARGLWYDD wneud rhywbeth, dyma fe'n troi ata i; roedd wedi gwrando arna i'n gweiddi am help.
O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint! — gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni. Does neb yn gallu dy rwystro di! Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill, ond mae yna ormod ohonyn nhw i'w cyfrif!
[7-8] Felly dyma fi'n dweud, “O Dduw, dw i'n dod i wneud beth rwyt ti eisiau — fel mae wedi ei ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.” Mae dy ddysgeidiaeth di yn rheoli fy mywyd i.
Mae peryglon di-ben-draw o'm cwmpas i ym mhobman. Mae fy mhechodau wedi fy nal i. Maen nhw wedi fy nallu! Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen! Dw i wedi dod i ben fy nhennyn!
Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn, ond mae gan yr ARGLWYDD ei fwriadau ar fy nghyfer. Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub. O fy Nuw, paid oedi!