Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd. Bydd yr ARGLWYDD yn ei waredu yn nydd adfyd; |
| 2 |
| bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw; bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir, ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion. |
| 3 |
| Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd, ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf. |
| 4 |
| Dywedais innau, "O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf; iach fi, oherwydd pechais yn d'erbyn." |
| 5 |
| Fe ddywed fy ngelynion yn faleisus amdanaf, "Pa bryd y bydd farw ac y derfydd ei enw?" |
| 6 |
| Pan ddaw un i'm gweld, y mae'n siarad yn rhagrithiol, ond yn ei galon yn casglu newydd drwg amdanaf, ac yn mynd allan i'w daenu ar led. |
| 7 |
| Y mae'r holl rai sy'n fy nghasu yn sisial 'i gilydd, yn meddwl y gwaethaf amdanaf, |
| 8 |
| ac yn dweud, "Y mae rhywbeth marwol wedi cydio ynddo; y mae'n orweiddiog, ac ni chyfyd eto." |
| 9 |
| Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y bm yn ymddiried ynddo, ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd, yn codi ei sawdl yn f'erbyn. |
| 10 |
| O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi, imi gael talu'n l iddynt. |
| 11 |
| Wrth hyn y gwn dy fod yn fy hoffi: na fydd fy ngelyn yn cael gorfoledd o'm plegid. |
| 12 |
| Ond byddi di'n fy nghynnal yn fy nghywirdeb, ac yn fy nghadw yn dy bresenoldeb byth. |
| 13 |
| Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Amen ac Amen. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/041.mp3
150
41