Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Mae'r un sy'n garedig at y tlawd wedi ei fendithio'n fawr. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff pan mae mewn perygl. |
| 2 |
| Bydd yr ARGLWYDD yn ei amddiffyn ac yn achub ei fywyd, A bydd yn profi bendith yn y tir. Fydd e ddim yn gadael i'w elynion gael eu ffordd. |
| 3 |
| Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal pan fydd yn sâl yn ei wely, ac yn ei iacháu yn llwyr o'i afiechyd. |
| 4 |
| “O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i,” meddwn i. “Iachâ fi. Dw i'n cyfaddef mod i wedi pechu yn dy erbyn di.” |
| 5 |
| Mae fy ngelynion yn dweud pethau cas amdana i, “Pryd mae'n mynd i farw a chael ei anghofio?” |
| 6 |
| Mae rhywun yn ymweld â mi, ac yn cymryd arno ei fod yn ffrind; ond ei fwriad ydy gwneud drwg i mi, ac ar ôl mynd allan, mae'n lladd arna i. |
| 7 |
| Mae fy ngelynion yn sibrwd amdana i ymhlith ei gilydd, ac yn cynllwynio i wneud niwed i mi. |
| 8 |
| “Mae'n diodde o afiechyd ofnadwy; fydd e ddim yn codi o'i wely byth eto.” |
| 9 |
| Mae hyd yn oed fy ffrind agos — yr un roeddwn i'n ei drystio, yr un fu'n bwyta wrth fy mwrdd i — wedi troi yn fy erbyn i! |
| 10 |
| Felly, O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i; gad i mi godi eto, i mi gael talu'n ôl iddyn nhw! |
| 11 |
| Ond dw i'n gwybod fy mod i'n dy blesio di: a fydd y gelyn ddim yn bloeddio ei fod wedi ennill y fuddugoliaeth. |
| 12 |
| Rwyt ti'n fy nghynnal i am fy mod i'n onest gyda ti. Dw i'n cael aros yn dy gwmni di am byth. |
| 13 |
| Ie, bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Amen ac Amen. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/041.mp3
150
41