×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 42

1
1 I'r Cyfarwyddwr: Mascl. I feibion Cora.0 Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw.
2
Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw; pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron?
3
Bu fy nagrau'n fwyd imi ddydd a nos, pan ofynnent imi drwy'r dydd, "Ple mae dy Dduw?"
4
Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion i du375? Dduw yng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gu373?yl.
5
Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw.
6
Y mae fy enaid yn ddarostyngedig ynof; am hynny, meddyliaf amdanat ti o dir yr Iorddonen a Hermon ac o Fynydd Misar.
7
Geilw dyfnder ar ddyfnder yn su373?n dy raeadrau; y mae dy fr a'th donnau wedi llifo trosof.
8
Liw dydd y mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei ffyddlondeb, a liw nos y mae ei gn gyda mi, gweddi ar Dduw fy mywyd.
9
Dywedaf wrth Dduw, fy nghraig, "Pam yr anghofiaist fi? Pam y rhodiaf mewn galar, wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?"
10
Fel pe'n dryllio fy esgyrn, y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio, ac yn dweud wrthyf trwy'r dydd, "Ple mae dy Dduw?"
11
Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau