Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Mascîl gan Feibion Cora. [1] Fel hydd yn brefu am ddiod o ddŵr, dw i'n hiraethu go iawn amdanat ti, O Dduw. |
| 2 |
| Mae gen i syched am Dduw, y Duw byw; O, pryd ga i fynd eto i sefyll o'i flaen yn ei deml? |
| 3 |
| Dw i'n methu bwyta, ac yn crïo nos a dydd, wrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd, “Ble mae dy Dduw di, felly?” |
| 4 |
| Wrth gofio hyn i gyd dw i'n teimlo mor drist! Cofio mynd gyda'r dyrfa i dŷ Dduw; gweiddi a moli'n llawen gyda phawb arall wrth ddathlu'r Ŵyl! |
| 5 |
| F'enaid, pam rwyt ti'n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i'n moli Duw eto am iddo ymyrryd i'm hachub i! |
| 6 |
| O fy Nuw, dw i'n teimlo mor isel. Felly dw i am feddwl amdanat ti tra dw i'n ffoadur yma. Yma mae'r Iorddonen yn tarddu o fryniau Hermon a Mynydd Misar; |
| 7 |
| lle mae sŵn dwfn y rhaeadrau yn galw ar ei gilydd. Mae fel petai tonnau mawr dy fôr yn llifo trosta i! |
| 8 |
| Ond dw i'n profi gofal ffyddlon yr ARGLWYDD drwy'r dydd, ac yn y nos dw i'n canu cân o fawl iddo ac yn gweddïo ar y Duw byw. |
| 9 |
| Dw i'n gofyn i Dduw, fy nghraig uchel, “Pam wyt ti'n cymryd dim sylw ohono i? Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist, am fod y gelynion yn fy ngham-drin i?” |
| 10 |
| Mae'r rhai sy'n fy nghasáu i yn gwawdio; ac mae'n brathu i'r byw wrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd, “Ble mae dy Dduw di, felly?” |
| 11 |
| F'enaid, pam wyt ti'n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i'n moli Duw eto am iddo ymyrryd i'm hachub i! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/042.mp3
150
42