Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Cymer fy mhlaid, O Dduw, ac amddiffyn fy achos rhag pobl annheyrngar; gwared fi rhag dynion twyllodrus ac anghyfiawn, |
| 2 |
| oherwydd ti, O Dduw, yw fy amddiffyn. Pam y gwrthodaist fi? Pam y rhodiaf mewn galar, wedi fy ngorthrymu gan y gelyn? |
| 3 |
| Anfon dy oleuni a'th wirionedd, bydded iddynt fy arwain, bydded iddynt fy nwyn i'th fynydd sanctaidd ac i'th drigfan. |
| 4 |
| Yna dof at allor Duw, at Dduw fy llawenydd; llawenychaf a'th foliannu 'r delyn, O Dduw, fy Nuw. |
| 5 |
| Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/043.mp3
150
43