Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Achub fy ngham, O Dduw! Dadlau fy achos yn erbyn pobl anffyddlon. Achub fi rhag y twyllwyr drwg! |
| 2 |
| Ti ydy fy Nuw i — fy nghaer ddiogel i; felly pam wyt ti wedi fy ngwrthod? Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist, am fod fy ngelynion yn fy ngham-drin i? |
| 3 |
| Rho dy olau i mi, gyda dy wirionedd, i'm harwain. Byddan nhw'n dod â fi yn ôl at y mynydd sanctaidd lle rwyt ti'n byw. |
| 4 |
| Bydda i'n cael mynd at allor Duw, y Duw sy'n fy ngwneud i mor hapus. Bydda i'n dy foli di gyda'r delyn, O Dduw, fy Nuw. |
| 5 |
| F'enaid, pam wyt ti'n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i'n moli Duw eto am iddo ymyrryd i'm hachub i! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/043.mp3
150
43