×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 45

1
1 I'r Cyfarwyddwr: ar Lilau. I feibion Cora. Mascl. Cn Serch.0 Symbylwyd fy nghalon gan neges dda; adroddaf fy nghn am y brenin; y mae fy nhafod fel pin ysgrifennydd buan.
2
Yr wyt yn decach na phawb; tywalltwyd gras ar dy wefusau am i Dduw dy fendithio am byth.
3
Gwisg dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr; mawredd a gogoniant addurna dy forddwyd.
4
Marchoga o blaid gwirionedd, ac o achos cyfiawnder, a bydded i'th ddeheulaw ddysgu iti bethau ofnadwy.
5
Y mae dy saethau'n llym yng nghalon gelynion y brenin; syrth pobloedd odanat.
6
Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw, yn dragwyddol, a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.
7
Ceraist gyfiawnder a chasu drygioni; am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinio ag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.
8
Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia, ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.
9
Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys; saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.
10
Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust: anghofia dy bobl dy hun a thu375? dy dad;
11
yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch, oherwydd ef yw dy arglwydd.
12
Ymostwng iddo ag anrhegion, O ferch Tyrus, a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.
13
Cwbl ogoneddus yw merch y brenin, cwrel wedi ei osod mewn aur sydd ar ei gwisg,
14
ac mewn brodwaith yr arweinir hi at y brenin; Ar ei hl daw ei chyfeillesau, y morynion;
15
dnt atat yn llawen a hapus, dnt i mewn i balas y brenin.
16
Yn lle dy dadau daw dy feibion, a gwnei hwy'n dywysogion dros yr holl ddaear.
17
Mynegaf dy glod dros y cenedlaethau, nes bod pobl yn dy ganmol hyd byth.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau