Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora, ar Alamoth. Cn.0 Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder. |
| 2 |
| Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symud ac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y mr, |
| 3 |
| er i'r dyfroedd ruo a therfysgu ac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd. Sela. |
| 4 |
| Y mae afon a'i ffrydiau'n llawenhau dinas Duw, preswylfa sanctaidd y Goruchaf. |
| 5 |
| Y mae Duw yn ei chanol, nid ysgogir hi; cynorthwya Duw hi ar doriad dydd. |
| 6 |
| Y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r teyrnasoedd yn gwegian; pan gwyd ef ei lais, todda'r ddaear. |
| 7 |
| Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni. Sela. |
| 8 |
| Dewch i weld gweithredoedd yr ARGLWYDD, fel y dygodd ddifrod ar y ddaear; |
| 9 |
| gwna i ryfeloedd beidio trwy'r holl ddaear, dryllia'r bwa, tyr y waywffon, a llosgi'r darian thn. |
| 10 |
| Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw, yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd, yn ddyrchafedig ar y ddaear. |
| 11 |
| Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni. Sela. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/046.mp3
150
46