×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 46

1
I'r arweinydd cerdd. Cân i leisiau merched ifanc, gan feibion Cora. [1] Mae Duw yn ein cadw ni'n saff ac yn rhoi nerth i ni. Mae e bob amser yna i'n helpu pan mae trafferthion.
2
Felly fydd gynnon ni ddim ofn hyd yn oed petai'r ddaear yn ysgwyd, a'r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr
3
gyda'i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu. Mae'r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo! Saib
4
Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen. Ie, y ddinas lle mae'r Duw Goruchaf yn byw.
5
Mae Duw yn ei chanol — fydd hi byth yn syrthio! Bydd Duw yn dod i'w helpu yn y bore bach.
6
Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio. Pan mae Duw yn taranu mae'r ddaear yn toddi.
7
Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni! Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib
8
Dewch i weld beth mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud; y difrod rhyfeddol mae wedi ei ddwyn ar y ddaear!
9
Mae'n dod a rhyfeloedd i ben drwy'r ddaear gyfan; Mae'n malu'r bwa ac yn torri'r waywffon, ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.
10
“Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i! Dw i'n llawer uwch na'r cenhedloedd; dw i'n llawer uwch na'r ddaear gyfan.”
11
Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni! Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau