Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.0 Curwch ddwylo, yr holl bobloedd; rhowch wrogaeth i Dduw chaneuon gorfoledd. |
| 2 |
| Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy, yn frenin mawr dros yr holl ddaear. |
| 3 |
| Fe ddarostwng bobloedd odanom, a chenhedloedd o dan ein traed. |
| 4 |
| Dewisodd ein hetifeddiaeth i ni, balchder Jacob, yr hwn a garodd. Sela. |
| 5 |
| Esgynnodd Duw gyda bloedd, yr ARGLWYDD gyda sain utgorn. |
| 6 |
| Canwch fawl i Dduw, canwch fawl; canwch fawl i'n brenin, canwch fawl. |
| 7 |
| Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear; canwch fawl yn gelfydd. |
| 8 |
| Y mae Duw yn frenin ar y cenhedloedd, y mae'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd. |
| 9 |
| Y mae tywysogion y bobl wedi ymgynnull gyda phobl Duw Abraham; oherwydd eiddo Duw yw mawrion y ddaear fe'i dyrchafwyd yn uchel iawn. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/047.mp3
150
47