×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 47

1
I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora. [1] Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo! Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw!
2
Mae'r ARGLWYDD Goruchaf yn Dduw i'w ryfeddu, ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd.
3
Mae'n gwneud i bobloedd ymostwng i ni; ni sy'n eu rheoli nhw.
4
Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni — tir i Jacob, y bobl mae wedi eu caru, ymfalchïo ynddo. Saib
5
Mae Duw wedi esgyn i'w orsedd, a'r dyrfa'n gweiddi'n llawen. Aeth yr ARGLWYDD i fyny, a'r corn hwrdd yn seinio!
6
Canwch fawl i Dduw, canwch! Canwch fawl i'n brenin ni, canwch!
7
Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd; Canwch gân hyfryd iddo!
8
Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd! Mae e'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd!
9
Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglu gyda phobl Duw Abraham. Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr y byd; Mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau