Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Cn. Salm. I feibion Cora.0 Mawr yw'r ARGLWYDD a theilwng iawn o fawl yn ninas ein Duw, ei fynydd sanctaidd. |
| 2 |
| Teg o uchder, llawenydd yr holl ddaear, yw Mynydd Seion, ar lechweddau'r Gogledd, dinas y Brenin Mawr. |
| 3 |
| Oddi mewn i'w cheyrydd y mae Duw wedi ei ddangos ei hun yn amddiffynfa. |
| 4 |
| Wele'r brenhinoedd wedi ymgynnull ac wedi dyfod at ei gilydd; |
| 5 |
| ond pan welsant, fe'u synnwyd, fe'u brawychwyd nes peri iddynt ffoi; |
| 6 |
| daeth dychryn arnynt yno, a gwewyr, fel gwraig yn esgor, |
| 7 |
| fel pan fo gwynt y dwyrain yn dryllio llongau Tarsis. |
| 8 |
| Fel y clywsom, felly hefyd y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y Lluoedd, yn ninas ein Duw ni a gynhelir gan Dduw am byth. Sela. |
| 9 |
| O Dduw, yr ydym wedi portreadu dy ffyddlondeb yng nghanol dy deml. |
| 10 |
| Fel y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl yn ymestyn hyd derfynau'r ddaear. Y mae dy ddeheulaw'n llawn o gyfiawnder; |
| 11 |
| bydded i Fynydd Seion lawenhau. Bydded i drefi Jwda orfoleddu oherwydd dy farnedigaethau. |
| 12 |
| Ymdeithiwch o gwmpas Jerwsalem, ewch o'i hamgylch, rhifwch ei thyrau, |
| 13 |
| sylwch ar ei magwyrydd, ewch trwy ei chaerau, fel y galloch ddweud wrth yr oes sy'n codi, |
| 14 |
| "Dyma Dduw! Y mae ein Duw ni hyd byth bythoedd, fe'n harwain yn dragywydd." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/048.mp3
150
48