×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 48

1
Cân. Salm gan feibion Cora. [1] Mae'r ARGLWYDD mor fawr ac mae'n haeddu ei foli! Yn ninas ein Duw ar ei fynydd cysegredig —
2
y copa hardd sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus. Mynydd Seion, sydd fel copaon Saffon, ydy dinas y Brenin mawr.
3
Mae Duw yn byw yn ei chaerau, ac mae'n adnabyddus fel caer ddiogel.
4
Edrychwch! Mae brenhinoedd yn ffurfio cynghrair, ac yn dod i ymosod gyda'i gilydd.
5
Ond ar ôl ei gweld roedden nhw'n fud, wedi dychryn am eu bywydau, ac yn dianc mewn panig!
6
Roedden nhw'n crynu trwyddynt, ac yn gwingo fel gwraig yn geni plentyn,
7
neu longau Tarshish yn cael eu dryllio gan wynt y dwyrain.
8
Dŷn ni bellach yn dystion i'r math o beth y clywson ni amdano; yn ninas yr ARGLWYDD holl-bwerus, sef dinas ein Duw — mae e wedi ei gwneud hi'n ddiogel am byth! Saib
9
O Dduw, dŷn ni wedi bod yn myfyrio yn dy deml am dy ofal ffyddlon.
10
O Dduw, rwyt ti'n enwog drwy'r byd i gyd, ac yn haeddu dy foli! Rwyt ti yn sicrhau cyfiawnder.
11
Mae mynydd Seion yn gorfoleddu! Mae pentrefi Jwda yn llawen, o achos beth wnest ti.
12
Cerdda o gwmpas Seion, dos reit rownd! Cyfra'r tyrau,
13
edrych yn fanwl ar ei waliau, a dos drwy ei chaerau, er mwyn i ti allu dweud wrth y genhedlaeth nesa.
14
Dyma sut un ydy Duw, ein Duw ni, bob amser. Bydd e'n ein harwain ni tra byddwn ni byw.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau