×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 49

1
1 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.0 Clywch hyn, yr holl bobloedd, gwrandewch, holl drigolion byd,
2
yn wreng a bonedd, yn gyfoethog a thlawd.
3
Llefara fy ngenau ddoethineb, a bydd myfyrdod fy nghalon yn ddeallus.
4
Gogwyddaf fy nghlust at ddihareb, a datgelaf fy nychymyg 'r delyn.
5
Pam yr ofnaf yn nyddiau adfyd, pan yw drygioni fy nisodlwyr o'm cwmpas,
6
rhai sy'n ymddiried yn eu golud ac yn ymffrostio yn nigonedd eu cyfoeth?
7
Yn wir, ni all neb ei waredu ei hun na thalu iawn i Dduw
8
oherwydd rhy uchel yw pris ei fywyd, ac ni all byth ei gyrraedd
9
iddo gael byw am byth a pheidio gweld Pwll Distryw.
10
Ond gwl fod y doethion yn marw, fod yr ynfyd a'r dwl yn trengi, ac yn gadael eu cyfoeth i eraill.
11
Eu bedd yw eu cartref bythol, eu trigfan dros y cenedlaethau, er iddynt gael tiroedd i'w henwau.
12
Ni all neb aros mewn rhwysg; y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.
13
Dyma yw tynged yr ynfyd, a diwedd y rhai sy'n cymeradwyo eu geiriau. Sela.
14
Fel defaid y tynghedir hwy i Sheol; angau fydd yn eu bugeilio; disgynnant yn syth i'r bedd, a bydd eu ffurf yn darfod; Sheol fydd eu cartref.
15
Ond bydd Duw'n gwaredu fy mywyd ac yn fy nghymryd o afael Sheol. Sela.
16
Paid ag ofni pan ddaw rhywun yn gyfoethog a phan gynydda golud ei du375?,
17
oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw, ac nid ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn.
18
Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei hun yn ddedwydd, a bod pobl yn ei ganmol am iddo wneud yn dda,
19
fe at genhedlaeth ei hynafiaid, ac ni wl oleuni byth mwy.
20
Ni all neb aros mewn rhwysg; y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau