1
I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora. [1] Gwrandwch ar hyn, chi'r bobloedd; clywch, bawb drwy'r byd i gyd —
2
pobl o bob cefndir yn gyfoethog ac yn dlawd.
3
Dw i'n mynd i rannu doethineb gyda chi, a dweud pethau dwfn.
4
Dw i'n mynd i ddysgu cân am ddoethineb, a'i chanu i gyfeiliant y delyn.
5
Pam ddylwn i ofni'r amserau anodd pan mae drygioni'r rhai sy'n twyllo yn fy mygwth?
6
Maen nhw'n dibynnu ar eu cyfoeth, ac yn brolio'r holl bethau sydd ganddyn nhw.
7
Ond all dyn ddim ei ryddhau ei hun, na thalu i Dduw i'w ollwng yn rhydd!
8
(Mae pris bywyd yn rhy uchel; waeth iddo adael y mater am byth!)
9
Ydy e'n mynd i allu byw am byth, a pheidio gweld y bedd?
10
Na, mae hyd yn oed pobl ddoeth yn marw! Mae bywyd ffyliaid gwyllt yn dod i ben, ac maen nhw'n gadael eu cyfoeth i eraill.
11
Maen nhw'n aros yn eu beddau am byth; byddan nhw yno ar hyd y cenedlaethau. Mae pobl gyfoethog yn enwi tiroedd ar eu holau,
12
ond dydyn nhw eu hunain ddim yn aros. Maen nhw, fel yr anifeiliaid, yn marw.
13
Dyna ydy tynged y rhai ffôl, a diwedd pawb sy'n dilyn eu syniadau. Saib
14
Maen nhw'n cael eu gyrru i Annwn fel defaid; a marwolaeth yn eu bugeilio nhw. Bydd y duwiol yn teyrnasu drostyn nhw pan ddaw'r wawr. Bydd y bedd yn llyncu eu cyrff; fyddan nhw ddim yn byw yn eu tai crand ddim mwy.
15
Ond bydd Duw yn achub fy mywyd i o grafangau'r bedd; bydd e'n dal gafael ynof fi! Saib
16
Paid poeni pan mae dyn yn dod yn gyfoethog, ac yn ennill mwy a mwy o eiddo.
17
Pan fydd e'n marw fydd e'n cymryd dim gydag e! Fydd ei gyfoeth ddim yn ei ddilyn i lawr i'r bedd!
18
Gall longyfarch ei hun yn ystod ei fywyd — “Mae pobl yn fy edmygu i am wneud mor dda” —
19
Ond bydd yntau'n mynd at ei hynafiaid, a fyddan nhw byth yn gweld golau ddydd eto.
20
Dydy pobl gyfoethog ddim yn deall; maen nhw, fel anifeiliaid, yn marw.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023