Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ar ffliwtiau. Salm. I Ddafydd.0 Gwrando ar fy ngeiriau, ARGLWYDD, ystyria fy nghwynfan; |
| 2 |
| clyw fy nghri am gymorth, fy Mrenin a'm Duw. |
| 3 |
| Arnat ti y gweddaf, ARGLWYDD; yn y bore fe glywi fy llais. Yn y bore paratoaf ar dy gyfer, ac fe ddisgwyliaf. |
| 4 |
| Oherwydd nid wyt Dduw sy'n hoffi drygioni, ni chaiff y drwg aros gyda thi, |
| 5 |
| ni all y trahaus sefyll o'th flaen. Yr wyt yn casu'r holl wneuthurwyr drygioni |
| 6 |
| ac yn difetha'r rhai sy'n dweud celwydd; ffieiddia'r ARGLWYDD un gwaedlyd a thwyllodrus. |
| 7 |
| Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th du375?, plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti. |
| 8 |
| ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion, gwna dy ffordd yn union o'm blaen. |
| 9 |
| Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau, y mae dinistr o'u mewn; bedd agored yw eu llwnc, a'u tafod yn llawn gweniaith. |
| 10 |
| Dwg gosb arnynt, O Dduw, bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion; bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodau am iddynt wrthryfela yn dy erbyn. |
| 11 |
| Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau, a chanu mewn llawenydd yn wastad; bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw, fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti. |
| 12 |
| Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn, ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/005.mp3
150
5