Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant ffliwt. Salm Dafydd. [1] Gwranda ar beth dw i'n ddweud, O ARGLWYDD; ystyria yn ofalus beth sy'n fy mhoeni i. |
| 2 |
| Cymer sylw ohono i'n gweiddi am help, oherwydd arnat ti dw i'n gweddïo fy Mrenin a'm Duw. |
| 3 |
| Gwranda arna i ben bore, O ARGLWYDD; Dw i'n pledio fy achos wrth iddi wawrio, ac yn disgwyl am ateb. |
| 4 |
| Dwyt ti ddim yn Dduw sy'n mwynhau drygioni; dydy pobl ddrwg ddim yn gallu aros yn dy gwmni. |
| 5 |
| Dydy'r rhai sy'n brolio ddim yn gallu sefyll o dy flaen di; ti'n casáu'r rhai sy'n gwneud drwg. |
| 6 |
| Byddi'n dinistrio'r rhai sy'n dweud celwydd; mae'n gas gen ti bobl sy'n dreisgar ac yn twyllo, O ARGLWYDD. |
| 7 |
| Ond dw i'n gallu mynd i mewn i dy dŷ di am fod dy gariad di mor anhygoel. Plygaf i addoli mewn rhyfeddod yn dy deml sanctaidd. |
| 8 |
| O ARGLWYDD, arwain fi i wneud beth sy'n iawn. Mae yna rai sy'n fy ngwylio i ac am ymosod arna i; plîs symud y rhwystrau sydd ar y ffordd o'm blaen i. |
| 9 |
| Achos dŷn nhw ddim yn dweud y gwir; eu hawydd dyfnaf ydy dinistrio pobl! Mae eu geiriau'n drewi fel bedd agored; a'u tafodau slic yn gwneud dim byd ond seboni. |
| 10 |
| Dinistria nhw, O Dduw! Gwna i'w cynlluniau nhw eu baglu! Tafla nhw i ffwrdd am eu bod wedi tynnu'n groes gymaint! Maen nhw wedi gwrthryfela yn dy erbyn di! |
| 11 |
| Ond gad i bawb sy'n troi atat ti am loches fod yn llawen! Gad iddyn nhw orfoleddu am byth! Cysgoda drostyn nhw, er mwyn i'r rhai sy'n caru dy enw di gael dathlu. |
| 12 |
| Oherwydd byddi di'n bendithio'r rhai cyfiawn, O ARGLWYDD; bydd dy ffafr fel tarian fawr o'u cwmpas nhw. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/005.mp3
150
5