|
| 1 |
|
| 1 Salm. I Asaff.0 Duw y duwiau, yr ARGLWYDD, a lefarodd; galwodd y ddaear o godiad haul hyd ei fachlud. |
|
| 2 |
|
| O Seion, berffaith ei phrydferthwch, y llewyrcha Duw. |
|
| 3 |
|
| Fe ddaw ein Duw, ac ni fydd ddistaw; bydd tn yn ysu o'i flaen, a thymestl fawr o'i gwmpas. |
|
| 4 |
|
| Y mae'n galw ar y nefoedd uchod, ac ar y ddaear, er mwyn barnu ei bobl: |
|
| 5 |
|
| "Casglwch ataf fy ffyddloniaid, a wnaeth gyfamod mi trwy aberth." |
|
| 6 |
|
| Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder, oherwydd Duw ei hun sydd farnwr. Sela. |
|
| 7 |
|
| "Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf; dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel; myfi yw Duw, dy Dduw di. |
|
| 8 |
|
| Ni cheryddaf di am dy aberthau, oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron. |
|
| 9 |
|
| Ni chymeraf fustach o'th du375?, na bychod geifr o'th gorlannau; |
|
| 10 |
|
| oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig, a'r gwartheg ar fil o fryniau. |
|
| 11 |
|
| Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr, ac eiddof fi holl greaduriaid y maes. |
|
| 12 |
|
| Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti, oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo. |
|
| 13 |
|
| A fwytf fi gig eich teirw, neu yfed gwaed eich bychod geifr? |
|
| 14 |
|
| Rhowch i Dduw offrymau diolch, a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf. |
|
| 15 |
|
| Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngder fe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu." |
|
| 16 |
|
| Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw, "Pa hawl sydd gennyt i adrodd fy neddfau, ac i gymryd fy nghyfamod ar dy wefusau? |
|
| 17 |
|
| Yr wyt yn casu disgyblaeth ac yn bwrw fy ngeiriau o'th l. |
|
| 18 |
|
| Os gweli leidr, fe ei i'w ganlyn, a bwrw dy goel gyda godinebwyr. |
|
| 19 |
|
| Y mae dy enau'n ymollwng i ddrygioni, a'th dafod yn nyddu twyll. |
|
| 20 |
|
| Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd, ac yn enllibio mab dy fam. |
|
| 21 |
|
| Gwnaethost y pethau hyn, bm innau ddistaw; tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun, ond ceryddaf di, a dwyn achos yn dy erbyn. |
|
| 22 |
|
| "Ystyriwch hyn, chwi sy'n anghofio Duw, rhag imi eich darnio heb neb i arbed. |
|
| 23 |
|
| Y sawl sy'n cyflwyno offrymau diolch sy'n fy anrhydeddu, ac i'r sawl sy'n dilyn fy ffordd y dangosaf iachawdwriaeth Duw." |
|
|
|
|