Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd, pan ddaeth y proffwyd Nathan ato wedi iddo fynd at Bathseba.0 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn l dy ffyddlondeb; yn l dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau; |
| 2 |
| golch fi'n ln o'm drygioni, a glanha fi o'm pechod. |
| 3 |
| Oherwydd gwn am fy nhroseddau, ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi. |
| 4 |
| Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais a gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg, fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd, ac yn gywir yn dy farn. |
| 5 |
| Wele, mewn drygioni y'm ganwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam. |
| 6 |
| Wele, yr wyt yn dymuno gwirionedd oddi mewn; felly dysg imi ddoethineb yn y galon. |
| 7 |
| Pura fi ag isop fel y byddaf ln; golch fi fel y byddaf wynnach nag eira. |
| 8 |
| Pr imi glywed gorfoledd a llawenydd, fel y bo i'r esgyrn a ddrylliaist lawenhau. |
| 9 |
| Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl euogrwydd. |
| 10 |
| Crea galon ln ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof. |
| 11 |
| Paid 'm bwrw ymaith oddi wrthyt, na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf. |
| 12 |
| Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth, a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd. |
| 13 |
| Dysgaf dy ffyrdd i droseddwyr, fel y dychwelo'r pechaduriaid atat. |
| 14 |
| Gwared fi rhag gwaed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth, ac fe gn fy nhafod am dy gyfiawnder. |
| 15 |
| Arglwydd, agor fy ngwefusau, a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant. |
| 16 |
| Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth; pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon. |
| 17 |
| Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig; calon ddrylliedig a churiedig ni ddirmygi, O Dduw. |
| 18 |
| Gwna ddaioni i Seion yn dy ras; adeilada furiau Jerwsalem. |
| 19 |
| Yna fe ymhyfrydi mewn aberthau cywir poethoffrwm ac aberth llosg yna fe aberthir bustych ar dy allor. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/051.mp3
150
51