×

Beibl William Morgan 1955

Salmau 51

1
I'r Pencerdd, Salm Dafydd, pan ddaeth Nathan y proffwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba. [1] Trugarha wrthyf, O DDUW, yn ôl dy drugarowgrwydd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau.
2
Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod.
3
Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.
4
Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y'th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.
5
Wele, mewn anwiredd y'm lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
6
Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.
7
Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na'r eira.
8
Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.
9
Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.
10
Crea galon lân ynof, O DDUW; ac adnewydda ysbryd uniawn o'm mewn.
11
Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.
12
Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â'th hael ysbryd cynnal fi.
13
Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.
14
Gwared fi oddi wrth waed, O DDUW, DUW fy iachawdwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
15
ARGLWYDD, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant.
16
Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a'i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.
17
Aberthau DUW ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O DDUW, ni ddirmygi.
18
Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerwsalem.
19
Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.
Welsh Bible 1955
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible 1955 British and Foreign Bible Society
:
Cadw Nodiadau