Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: Mascl. I Ddafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a dweud wrth Saul fod Dafydd wedi dod i du375? Ahimelech.0 O u373?r grymus, pam yr ymffrosti yn dy ddrygioni yn erbyn y duwiol yr holl amser? |
| 2 |
| Yr wyt yn cynllwyn distryw; y mae dy dafod fel ellyn miniog, ti dwyllwr. |
| 3 |
| Yr wyt yn caru drygioni'n fwy na daioni, a chelwydd yn fwy na dweud y gwir. Sela. |
| 4 |
| Yr wyt yn caru pob gair difaol ac iaith dwyllodrus. |
| 5 |
| Bydd Duw'n dy dynnu i lawr am byth, bydd yn dy gipio ac yn dy dynnu o'th babell, ac yn dy ddadwreiddio o dir y byw. Sela. |
| 6 |
| Bydd y cyfiawn yn gweld ac yn ofni, yn chwerthin am ei ben ac yn dweud, |
| 7 |
| "Dyma'r un na wnaeth Dduw yn noddfa, ond a ymddiriedodd yn nigonedd ei drysorau, a cheisio noddfa yn ei gyfoeth ei hun." |
| 8 |
| Ond yr wyf fi fel olewydden iraidd yn nhu375? Dduw; ymddiriedaf yn ffyddlondeb Duw byth bythoedd. |
| 9 |
| Diolchaf iti hyd byth am yr hyn a wnaethost; cyhoeddaf dy enw oherwydd da yw ymysg dy ffyddloniaid. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/052.mp3
150
52