Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Mascîl. Salm gan Dafydd, pan aeth Doeg o Edom at Saul a dweud wrtho, “Mae Dafydd wedi dod i dŷ Achimelech.” [1] Wyt ti'n falch o'r drwg wnest ti, ac yn meddwl dy fod ti'n dipyn o arwr? Wel, dw i'n gwybod fod Duw yn ffyddlon! |
| 2 |
| Rwyt ti'n cynllwynio dinistr, ac mae dy dafod di fel rasel finiog, y twyllwr! |
| 3 |
| Mae drwg yn well na da gen ti, a chelwydd yn well na dweud y gwir. Saib |
| 4 |
| Ti'n hoffi dweud pethau sy'n gwneud niwed i bobl, ac yn twyllo pobl. |
| 5 |
| Ond bydd Duw yn dy daro i lawr unwaith ac am byth! Bydd yn dy gipio allan o dy babell, ac yn dy lusgo i ffwrdd o dir y byw. Saib |
| 6 |
| Bydd y rhai sy'n iawn gyda Duw yn gweld y peth, ac wedi eu syfrdanu. Byddan nhw'n chwerthin ar dy ben, ac yn dweud, |
| 7 |
| “Edrychwch! Dyma'r dyn oedd yn gwrthod troi at Dduw am help! Y dyn oedd yn pwyso ar ei gyfoeth, ac yn meddwl ei fod yn dipyn o foi yn dinistrio pobl eraill!” |
| 8 |
| Ond dw i'n llwyddo fel coeden olewydd sy'n tyfu yn nhŷ Dduw! Dw i'n trystio Duw am ei fod yn ffyddlon bob amser. |
| 9 |
| Bydda i'n dy foli di am byth, O Dduw, am beth rwyt ti wedi ei wneud. Dw i'n mynd i obeithio yn dy enw di. Mae'r rhai sy'n ffyddlon i ti yn gwybod mor dda wyt ti! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/052.mp3
150
52