×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 53

1
1 I'r Cyfarwyddwr: ar Mahalath. Mascl. I Ddafydd.0 Dywed yr ynfyd yn ei galon, "Nid oes Duw." Gwnnt weithredoedd llygredig a ffiaidd; nid oes un a wna ddaioni.
2
Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd ar ddynolryw, i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoeth ac yn ceisio Duw.
3
Ond y mae pawb ar gyfeiliorn, ac mor llygredig 'i gilydd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un.
4
Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni sy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd, ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?
5
Yno y byddant mewn dychryn mawr, dychryn na fu ei debyg. Y mae Duw yn gwasgaru esgyrn yr annuwiol; daw cywilydd arnynt am i Dduw eu gwrthod.
6
O na ddi gwaredigaeth i Israel o Seion! Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl, fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau