Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Mascîl ar yr alaw “Machalath”. Salm Dafydd. [1] Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn bodoli.” Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd. Does neb yn gwneud daioni! |
| 2 |
| Mae Duw yn edrych i lawr o'r nefoedd ar y ddynoliaeth i weld os oes unrhyw un call; unrhyw un sy'n ceisio Duw. |
| 3 |
| Ond mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn gwbl lygredig. Does neb yn gwneud daioni — dim un! |
| 4 |
| Ydyn nhw wir mor dwp? — yr holl rhai drwg sy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd, a byth yn galw ar yr ARGLWYDD? |
| 5 |
| Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau — fuodd erioed y fath beth o'r blaen — Bydd Duw yn chwalu esgyrn y rhai sy'n ymosod arnat ti. Byddi di'n codi cywilydd arnyn nhw, am fod Duw wedi eu gwrthod nhw. |
| 6 |
| O dw i eisiau i'r un sy'n achub Israel ddod o Seion! Pan fydd Duw yn troi'r sefyllfa rownd bydd Jacob yn gorfoleddu, a bydd Israel mor hapus! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/053.mp3
150
53