Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Mascl. I Ddafydd, pan ddaeth y Siffiaid at Saul a dweud, "Y mae Dafydd yn cuddio yn ein mysg."0 O Dduw, gwareda fi trwy dy enw, a thrwy dy nerth cyfiawnha fi. |
| 2 |
| O Dduw, gwrando fy ngweddi, rho glust i eiriau fy ngenau. |
| 3 |
| Oherwydd cododd gwu375?r trahaus yn fy erbyn, ac y mae gwu375?r didostur yn ceisio fy mywyd; nid ydynt yn meddwl am Dduw. Sela. |
| 4 |
| Wele, Duw yw fy nghynorthwywr, fy Arglwydd yw cynhaliwr fy mywyd. |
| 5 |
| Bydded i ddrygioni ddychwelyd ar fy ngelynion! Trwy dy wirionedd diddyma hwy. |
| 6 |
| Aberthaf yn ewyllysgar i ti; clodforaf dy enw, O ARGLWYDD, oherwydd da yw; |
| 7 |
| oherwydd gwaredodd fi o bob cyfyngder, a gwneud imi orfoleddu dros fy ngelynion. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/054.mp3
150
54