Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Mascîl i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm gan Dafydd, pan aeth pobl Siff at Saul a dweud wrtho, “Mae Dafydd yn cuddio gyda ni.” [1] O Dduw, tyrd ac achub fi! Amddiffyn fi gyda dy holl nerth. |
| 2 |
| O Dduw, gwrando ar fy ngweddi! Clyw beth dw i'n ddweud. |
| 3 |
| Mae pobl estron wedi troi yn fy erbyn i. Mae dynion creulon am fy lladd i. Does dim bwys ganddyn nhw am Dduw. Saib |
| 4 |
| Ond Duw ydy'r un sy'n fy helpu i. Yr ARGLWYDD sy'n fy nghadw i'n fyw. |
| 5 |
| Tro fwriadau drwg y gelynion yn eu herbyn! Dinistria nhw, fel rwyt wedi addo gwneud. |
| 6 |
| Wedyn bydda i'n dod ag offrwm gwirfoddol i'w aberthu i ti. Bydda i'n moli dy enw di, ARGLWYDD, am dy fod mor dda! |
| 7 |
| Ie, rwyt yn fy achub o'm holl drafferthion; dw i'n gweld fy ngelynion yn cael eu gorchfygu! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/054.mp3
150
54