|
| 1 |
|
| 1 I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Mascl. I Ddafydd.0 Gwrando, O Dduw, ar fy ngweddi; paid ag ymguddio rhag fy neisyfiad. |
|
| 2 |
|
| Gwrando arnaf ac ateb fi; yr wyf wedi fy llethu gan fy nghwyn. |
|
| 3 |
|
| Yr wyf bron drysu gan su373?n y gelyn, gan grochlefain y drygionus; oherwydd pentyrrant ddrygioni arnaf, ac ymosod arnaf yn eu llid. |
|
| 4 |
|
| Y mae fy nghalon mewn gwewyr, a daeth ofn angau ar fy ngwarthaf. |
|
| 5 |
|
| Daeth arnaf ofn ac arswyd, ac fe'm meddiannwyd gan ddychryn. |
|
| 6 |
|
| A dywedais, "O na fyddai gennyf adenydd colomen, imi gael ehedeg ymaith a gorffwyso! |
|
| 7 |
|
| Yna byddwn yn crwydro ymhell ac yn aros yn yr anialwch; Sela. |
|
| 8 |
|
| brysiwn i gael cysgod rhag y gwynt stormus a'r dymestl." |
|
| 9 |
|
| O Dduw, cymysga a rhanna'u hiaith, oherwydd gwelais drais a chynnen yn y ddinas; |
|
| 10 |
|
| ddydd a nos y maent yn ei hamgylchu ar y muriau, ac y mae drygioni a thrybini o'i mewn, |
|
| 11 |
|
| dinistr yn ei chanol; ac nid yw twyll a gorthrwm yn ymadael o'i marchnadfa. |
|
| 12 |
|
| Ond nid gelyn a'm gwawdiodd gallwn oddef hynny; nid un o'm caseion a'm bychanodd gallwn guddio rhag hwnnw; |
|
| 13 |
|
| ond ti, fy nghydradd, fy nghydymaith, fy nghydnabod |
|
| 14 |
|
| buom mewn cyfeillach felys 'n gilydd wrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhu375? Dduw. |
|
| 15 |
|
| Doed marwolaeth arnynt; bydded iddynt fynd yn fyw i Sheol, am fod drygioni'n cartrefu yn eu mysg. |
|
| 16 |
|
| Ond gwaeddaf fi ar Dduw, a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub. |
|
| 17 |
|
| Hwyr a bore a chanol dydd fe gwynaf a griddfan, a chlyw ef fy llais. |
|
| 18 |
|
| Gwareda fy mywyd yn ddiogel o'r rhyfel yr wyf ynddo, oherwydd y mae llawer i'm herbyn. |
|
| 19 |
|
| Gwrendy Duw a'u darostwng y mae ef wedi ei orseddu erioed Sela. am na fynnant newid nac ofni Duw. |
|
| 20 |
|
| Estynnodd fy nghydymaith ei law yn erbyn ei gyfeillion, torrodd ei gyfamod. |
|
| 21 |
|
| Yr oedd ei leferydd yn esmwythach na menyn, ond yr oedd rhyfel yn ei galon; yr oedd ei eiriau'n llyfnach nag olew, ond yr oeddent yn gleddyfau noeth. |
|
| 22 |
|
| Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac fe'th gynnal di; ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth. |
|
| 23 |
|
| Ti, O Dduw, a'u bwria i'r pwll isaf rhai gwaedlyd a thwyllodrus ni chnt fyw hanner eu dyddiau. Ond ymddiriedaf fi ynot ti. |
|
|
|
|