Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Golomen y Derw Pell. Michtam. I Ddafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.0 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, oherwydd y mae pobl yn gwasgu arnaf, ac ymosodwyr yn fy ngorthrymu drwy'r dydd; |
| 2 |
| y mae fy ngelynion yn gwasgu arnaf drwy'r dydd, a llawer yw'r rhai sy'n ymladd yn f'erbyn. |
| 3 |
| Cod fi i fyny yn nydd fy ofn; yr wyf yn ymddiried ynot ti. |
| 4 |
| Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi? |
| 5 |
| Trwy'r dydd y maent yn ystumio fy ngeiriau, ac y mae eu holl fwriadau i'm drygu. |
| 6 |
| Ymgasglant at ei gilydd a llechu, ac y maent yn gwylio fy nghamre. |
| 7 |
| Fel y disgwyliant am fy mywyd, tl iddynt am eu trosedd; yn dy ddig, O Dduw, darostwng bobloedd. |
| 8 |
| Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau, ac wedi costrelu fy nagrau onid ydynt yn dy lyfr? |
| 9 |
| Yna troir fy ngelynion yn eu hl yn y dydd y galwaf arnat. Hyn a wn: fod Duw o'm tu. |
| 10 |
| Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn yr ARGLWYDD, y molaf ei air, |
| 11 |
| yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi? |
| 12 |
| Gwneuthum addunedau i ti, O Dduw; fe'u talaf i ti ag offrymau diolch. |
| 13 |
| Oherwydd gwaredaist fy mywyd rhag angau, a'm camau, yn wir, rhag llithro, er mwyn imi rodio gerbron Duw yng ngoleuni'r bywyd. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/056.mp3
150
56