×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 56

1
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Colomen ar Goed Derw Pell”. Wedi ei hysgrifennu gan Dafydd ar ôl iddo gael ei ddal gan y Philistiaid yn Gath. [1] Dangos drugaredd ata i, O Dduw, dw i'n cael fy erlid! Mae'r gelynion yn ymosod arna i drwy'r amser.
2
Maen nhw'n fy ngwylio i ac yn fy erlid i'n ddi-baid. Mae cymaint ohonyn nhw yn ymladd yn fy erbyn! O Dduw, y Goruchaf.
3
Pan mae gen i ofn, dw i'n dy drystio di —
4
Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air! Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn. Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
5
Maen nhw'n twistio fy ngeiriau a dim ond eisiau gwneud niwed i mi.
6
Maen nhw'n dod at ei gilydd i ysbïo arna i. Maen nhw'n gwylio pob symudiad, ac yn edrych am gyfle i'm lladd.
7
Wyt ti'n mynd i adael iddyn nhw lwyddo? Bwrw nhw i lawr yn dy ddig, O Dduw!
8
Ti'n cadw cofnod bob tro dw i'n ochneidio. Ti'n casglu fy nagrau mewn costrel. Mae'r cwbl wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr.
9
Bydd y gelyn yn ffoi pan fydda i'n galw arnat ti. Achos dw i'n gwybod un peth — mae Duw ar fy ochr i.
10
Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air! Yr ARGLWYDD — dw i'n gwybod ei fod yn cadw ei air!
11
Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn. Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
12
Dw i'n mynd i gadw fy addewidion, O Dduw, a chyflwyno offrymau diolch i ti.
13
Ti wedi achub fy mywyd i, a chadw fy nhraed rhag llithro. Dw i'n gallu byw i ti, O Dduw, a mwynhau goleuni bywyd.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau