Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Michtam. I Ddafydd, pan ddihangodd rhag Saul yn yr ogof.0 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, bydd drugarog wrthyf, oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu; yng nghysgod dy adenydd y mae fy lloches nes i'r stormydd fynd heibio. |
| 2 |
| Galwaf ar y Duw Goruchaf, ar y Duw sy'n gweithredu drosof. |
| 3 |
| Bydd yn anfon o'r nefoedd i'm gwaredu; bydd yn cywilyddio'r rhai sy'n gwasgu arnaf; Sela. bydd Duw yn anfon ei gariad a'i wirionedd. |
| 4 |
| Yr wyf yn byw yng nghanol llewod, rhai sy'n traflyncu pobl, a'u dannedd yn bicellau a saethau, a'u tafod yn gleddyf miniog. |
| 5 |
| Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw, a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear. |
| 6 |
| Y maent wedi gosod rhwyd i'm traed, ac wedi darostwng fy mywyd; y maent wedi cloddio pwll ar fy nghyfer, ond hwy eu hunain fydd yn syrthio iddo. Sela. |
| 7 |
| Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw, y mae fy nghalon yn gadarn; fe ganaf a rhoi mawl. |
| 8 |
| Deffro, fy enaid, deffro di, nabl a thelyn. Fe ddeffroaf ar doriad gwawr. |
| 9 |
| Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, ymysg y bobloedd, a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd, |
| 10 |
| oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau. |
| 11 |
| Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw, a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/057.mp3
150
57