×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 58

1
1 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. I Ddafydd. Michtam.0 Chwi gedyrn, a ydych mewn difri'n dedfrydu'n gyfiawn? A ydych yn barnu pobl yn deg?
2
Na! Yr ydych 'ch calonnau'n dyfeisio drygioni, ac 'ch dwylo'n gwasgaru trais dros y ddaear.
3
Y mae'r drygionus yn wrthryfelgar o'r groth, a'r rhai sy'n llefaru celwydd yn cyfeiliorni o'r bru.
4
Y mae eu gwenwyn fel gwenwyn sarff, fel asb fyddar sy'n cau ei chlustiau,
5
a heb wrando ar sain y swynwr sy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd.
6
O Dduw, dryllia'r dannedd yn eu genau, diwreiddia gilddannedd y llewod, O ARGLWYDD.
7
Bydded iddynt ddiflannu fel du373?r a mynd ymaith, a chrino fel gwellt a sethrir;
8
byddant fel erthyl sy'n diflannu, ac fel marw-anedig na wl olau dydd.
9
Cyn iddynt wybod bydd yn eu diwreiddio; yn ei ddig bydd yn eu sgubo ymaith fel chwyn.
10
Bydd y cyfiawn yn llawenhau am iddo weld dialedd, ac yn golchi ei draed yng ngwaed y drygionus.
11
A dywed pobl, "Yn ddi-os y mae gwobr i'r cyfiawn; oes, y mae Duw sy'n gwneud barn ar y ddaear."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau