Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw ‛Paid dinistrio‛. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd. [1] Chi arweinwyr, ydych chi'n rhoi dedfryd gyfiawn? Ydych chi'n barnu pobl yn deg? |
| 2 |
| Na! Dych chi'n anghyfiawn, ac yn lledu trais ym mhobman. |
| 3 |
| Mae rhai drwg felly yn troi cefn ers cael eu geni; yn dweud celwydd a mynd eu ffordd eu hunain o'r dechrau. |
| 4 |
| Maen nhw'n brathu fel neidr wenwynig, neu gobra sy'n cau ei chlustiau. |
| 5 |
| Mae'n gwrthod gwrando ar alaw y swynwr, er mor hyfryd ydy'r alaw i'w hudo. |
| 6 |
| Torra eu dannedd nhw, O Dduw! Dryllia ddannedd y llewod ifanc, ARGLWYDD. |
| 7 |
| Gwna iddyn nhw ddiflannu fel dŵr mewn tir sych; gwna iddyn nhw saethu saethau wedi eu torri. |
| 8 |
| Gwna nhw fel ôl malwen yn toddi wrth iddi symud; neu blentyn wedi marw yn y groth cyn gweld golau dydd! |
| 9 |
| Bydd Duw yn eu hysgubo nhw i ffwrdd fel storm wyllt, cyn i grochan deimlo gwres tân agored. |
| 10 |
| Bydd y duwiol mor hapus wrth weld dial ar yr annhegwch. Byddan nhw'n trochi eu traed yng ngwaed y rhai drwg! |
| 11 |
| A bydd pobl yn dweud, “Felly mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael gwobr! Mae yna Dduw sydd yn barnu ar y ddaear!” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/058.mp3
150
58