×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 6

1
1 I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol, ar Seminith. Salm. I Ddafydd.0 ARGLWYDD, paid 'm ceryddu yn dy ddig, paid 'm cosbi yn dy lid.
2
Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg; iach fi, ARGLWYDD, oherwydd brawychwyd fy esgyrn,
3
y mae fy enaid mewn arswyd mawr. Tithau, ARGLWYDD, am ba hyd?
4
Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid; achub fi er mwyn dy ffyddlondeb.
5
Oherwydd nid oes cofio amdanat ti yn angau; pwy sy'n dy foli di yn Sheol?
6
Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan; bob nos y mae fy ngwely'n foddfa, trochaf fy ngobennydd 'm dagrau.
7
Pylodd fy llygaid gan ofid, a phallu oherwydd fy holl elynion.
8
Ewch ymaith oddi wrthyf, holl wneuthurwyr drygioni, oherwydd clywodd yr ARGLWYDD fi'n wylo.
9
Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar fy neisyfiad, ac y mae'r ARGLWYDD yn derbyn fy ngweddi.
10
Bydded cywilydd a dryswch i'm holl elynion; trnt yn l a'u cywilyddio'n sydyn.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau