Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Ar yr wythfed. Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i, paid dweud y drefn yn dy wylltineb. |
| 2 |
| Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD, achos dw i mor wan. Iachâ fi, ARGLWYDD, dw i'n crynu at yr asgwrn. |
| 3 |
| Dw i wedi dychryn am fy mywyd, ac rwyt ti, ARGLWYDD … — O, am faint mwy? |
| 4 |
| ARGLWYDD, tyrd! Achub fi! Dangos mor ffyddlon wyt ti. Gollwng fi'n rhydd! |
| 5 |
| Dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy gofio di. Pwy sy'n dy foli di yn ei fedd? |
| 6 |
| Dw i wedi blino tuchan. Mae fy ngwely'n wlyb gan ddagrau bob nos; mae dagrau wedi socian lle dw i'n gorwedd. |
| 7 |
| Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder, dw i wedi ymlâdd o achos fy holl elynion. |
| 8 |
| Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg! Mae'r ARGLWYDD wedi fy nghlywed i'n crïo. |
| 9 |
| Mae wedi fy nghlywed i'n pledio am help. Bydd yr ARGLWYDD yn ateb fy ngweddi. |
| 10 |
| Bydd fy holl elynion yn cael eu siomi a'u dychryn. Byddan nhw'n troi yn ôl yn sydyn, wedi siomi. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/006.mp3
150
6