×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 60

1
1 I'r Cyfarwyddwr: ar Susan Eduth. Michtam, i hyfforddi. I Ddafydd, pan oedd yn ymladd yn erbyn Aram-naharaim ac Aram-soba, a Joab yn dychwelyd ac yn lladd deuddeng mil o Edom yn Nyffryn yr Halen.0 O Dduw, gwrthodaist ni a'n bylchu; buost yn ddicllon. Adfer ni!
2
Gwnaethost i'r ddaear grynu ac fe'i holltaist; trwsia ei rhwygiadau, oherwydd y mae'n gwegian.
3
Gwnaethost i'th bobl yfed peth chwerw, a rhoist inni win a'n gwna'n simsan.
4
Rhoist faner i'r rhai sy'n dy ofni, iddynt ffoi ati rhag y bwa. Sela.
5
Er mwyn gwaredu dy anwyliaid, achub 'th ddeheulaw, ac ateb ni.
6
Llefarodd Duw yn ei gysegr, "Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem
7
a mesur dyffryn Succoth yn rhannau; eiddof fi yw Gilead a Manasse, Effraim yw fy helm, a Jwda yw fy nheyrnwialen;
8
Moab yw fy nysgl ymolchi, ac at Edom y taflaf fy esgid; ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf."
9
Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog? Pwy a'm harwain i Edom?
10
Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod, a pheidio mynd allan gyda'n byddinoedd?
11
Rho inni gymorth rhag y gelyn, oherwydd ofer yw ymwared dynol.
12
Gyda Duw fe wnawn wrhydri; ef fydd yn sathru ein gelynion.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau