×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 60

1
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Lili'r Dystiolaeth”. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd (i'w dysgu), pan oedd yn ymladd yn erbyn Syriaid Gogledd Mesopotamia a Syriaid Soba, a Joab yn dod yn ôl ac yn gorchfygu Edom — byddin o ddeuddeg mil — yn Nyffryn yr Halen. [1] O Dduw, rwyt ti wedi'n gwrthod ni a bylchu ein hamddiffyn. Buost yn ddig gyda ni. Plîs adfer ni!
2
Gwnaethost i'r tir grynu, a'i hollti'n agored. Selia'r holltau, cyn i'r cwbl syrthio!
3
Ti wedi rhoi amser caled i dy bobl; a rhoi gwin i'w yfed sydd wedi'n gwneud ni'n chwil.
4
Coda faner i'r rhai sy'n dy ddilyn allu dianc ati rhag saethau'r bwa. Saib
5
Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb ni er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.
6
Mae Duw wedi addo yn ei gysegr: “Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem, a mesur dyffryn Swccoth.
7
Fi sydd piau Gilead a Manasse hefyd. Effraim ydy fy helmed i, a Jwda ydy'r deyrnwialen.
8
Ond bydd Moab fel powlen ymolchi. Byddaf yn taflu fy esgid at Edom, ac yn dathlu ar ôl gorchfygu Philistia!”
9
Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel? Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?
10
Onid ti, O Dduw? Ond rwyt wedi'n gwrthod ni! Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?
11
Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn, achos dydy help dynol yn dda i ddim.
12
Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion — bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau