Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. I Ddafydd.0 Clyw fy nghri, O Dduw, a gwrando ar fy ngweddi; |
| 2 |
| o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat, pan yw fy nghalon ar suddo. Arwain fi at graig sy'n uwch na mi; |
| 3 |
| oherwydd buost ti'n gysgod imi, yn du373?r cadarn rhag y gelyn. |
| 4 |
| Gad imi aros yn dy babell am byth, a llochesu dan gysgod dy adenydd. Sela. |
| 5 |
| Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau, a gwnaethost ddymuniad y rhai sy'n ofni dy enw. |
| 6 |
| Estyn ddyddiau lawer at oes y brenin, a bydded ei flynyddoedd fel cenedlaethau; |
| 7 |
| bydded wedi ei orseddu gerbron Duw am byth; bydded cariad a gwirionedd yn gwylio drosto. |
| 8 |
| Felly y canmolaf dy enw byth, a thalu fy addunedau ddydd ar l dydd. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/061.mp3
150
61