Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: I gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd. [1] Gwranda arna i'n galw, O Dduw. Gwranda ar fy ngweddi. |
| 2 |
| Dw i'n galw arnat ti o ben draw'r byd. Pan dw i'n anobeithio, arwain fi at graig uchel ddiogel. |
| 3 |
| Achos rwyt ti'n le saff i mi fynd; yn gaer gref lle all fy ngelynion ddim dod. |
| 4 |
| Gad i mi aros yn dy babell am byth, yn saff dan gysgod dy adenydd. Saib |
| 5 |
| O Dduw, clywaist yr addewidion wnes i; ti wedi rhoi etifeddiaeth i mi gyda'r rhai sy'n dy addoli. |
| 6 |
| Gad i'r brenin fyw am flynyddoedd eto! Gad iddo fyw am genedlaethau lawer, |
| 7 |
| ac eistedd ar yr orsedd o flaen Duw am byth! Gwylia drosto gyda dy gariad a dy ofal ffyddlon. |
| 8 |
| Yna byddaf yn canu mawl i dy enw am byth, wrth i mi gadw fy addewidion i ti bob dydd. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/061.mp3
150
61