×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 62

1
1 I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. Salm. I Ddafydd.0 Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngwaredigaeth.
2
Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth, fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
3
Am ba hyd yr ymosodwch ar ddyn, bob un ohonoch, a'i falurio, fel mur wedi gogwyddo a chlawdd ar syrthio?
4
Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle, ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll; y maent yn bendithio 'u genau, ond ynddynt eu hunain yn melltithio. Sela.
5
Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.
6
Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth, fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
7
Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd; fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw.
8
Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl, tywalltwch allan eich calon iddo; Duw yw ein noddfa. Sela.
9
Yn wir, nid yw gwrng ond anadl, nid yw bonedd ond rhith; pan roddir hwy mewn clorian, codant y maent i gyd yn ysgafnach nag anadl.
10
Peidiwch ag ymddiried mewn gormes, na gobeithio'n ofer mewn lladrad; er i gyfoeth amlhau, peidiwch gosod eich bryd arno.
11
Unwaith y llefarodd Duw, dwywaith y clywais hyn: I Dduw y perthyn nerth,
12
i ti, O Arglwydd, y perthyn ffyddlondeb; yr wyt yn talu i bob un yn l ei weithredoedd.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau