Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Salm. I Ddafydd, pan oedd yn anialwch Jwda.0 O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddu373?r. |
| 2 |
| Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr, a gweld dy rym a'th ogoniant. |
| 3 |
| Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd; am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu. |
| 4 |
| Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes, ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw. |
| 5 |
| Caf fy nigoni, fel pe ar fr a braster, a moliannaf di gwefusau llawen. |
| 6 |
| Pan gofiaf di ar fy ngwely, a myfyrio amdanat yng ngwyliadwriaethau'r nos |
| 7 |
| fel y buost yn gymorth imi, ac fel yr arhosais yng nghysgod dy adenydd |
| 8 |
| bydd fy enaid yn glynu wrthyt; a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal. |
| 9 |
| Ond am y rhai sy'n ceisio difetha fy mywyd, byddant hwy'n suddo i ddyfnderau'r ddaear; |
| 10 |
| fe'u tynghedir i fin y cleddyf, a byddant yn ysglyfaeth i lwynogod. |
| 11 |
| Ond bydd y brenin yn llawenhau yn Nuw, a bydd pawb sy'n tyngu iddo ef yn gorfoleddu, oherwydd caeir safnau'r rhai celwyddog. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/063.mp3
150
63