×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 63

1
Salm gan Dafydd, pan oedd yn anialwch Jwda. [1] O Dduw, ti ydy fy Nuw i! Dw i wir yn dy geisio di. Mae fy enaid yn sychedu amdanat. Mae fy nghorff yn dyheu amdanat, fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr.
2
Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr, a gweld dy rym a dy ysblander!
3
Profi dy ffyddlondeb di ydy'r peth gorau am fywyd, ac mae fy ngwefusau'n dy foli di!
4
Dw i'n mynd i dy foli fel yma am weddill fy mywyd; codi fy nwylo mewn gweddi, a galw ar dy enw.
5
Dw i wedi fy modloni'n llwyr, fel ar ôl bwyta gwledd! Dw i'n canu mawl i ti â gwefusau llawen.
6
Dw i'n meddwl amdanat wrth orwedd ar fy ngwely, ac yn myfyrio arnat ti yng nghanol y nos;
7
Dw i'n cofio fel y gwnest ti fy helpu — ron i'n gorfoleddu, yn saff dan gysgod dy adenydd.
8
Dw i am lynu'n dynn wrthot ti; dy law gref di sy'n fy nghynnal i.
9
Bydd y rhai sy'n ceisio fy lladd i yn mynd i lawr yn ddwfn i'r ddaear.
10
Bydd y rhai sydd am fy nharo gyda'r cleddyf yn cael eu gadael yn fwyd i siacaliaid.
11
Ond bydd y brenin yn dathlu beth wnaeth Duw. Bydd pawb sy'n tyngu llw iddo yn gorfoleddu, pan fydd e'n cau cegau y rhai celwyddog!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau