Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Clyw fy llais, O Dduw, wrth imi gwyno; achub fy mywyd rhag arswyd y gelyn, |
| 2 |
| cuddia fi rhag cynllwyn rhai drygionus a rhag dichell gwneuthurwyr drygioni |
| 3 |
| rhai sy'n hogi eu tafod fel cleddyf, ac yn anelu eu geiriau chwerw fel saethau, |
| 4 |
| i saethu'r dieuog o'r dirgel, i saethu'n sydyn a di-ofn. |
| 5 |
| Y maent yn glynu wrth eu bwriad drwg, ac yn sn am osod maglau o'r golwg, a dweud, "Pwy all ein gweld?" |
| 6 |
| Y maent yn dyfeisio drygioni, ac yn cuddio'u dyfeisiadau; y mae'r galon a'r meddwl dynol yn ddwfn! |
| 7 |
| Ond bydd Duw'n eu saethu 'i saeth; yn sydyn y daw eu cwymp. |
| 8 |
| Bydd yn eu dymchwel oherwydd eu tafod, a bydd pawb sy'n eu gweld yn ysgwyd eu pennau. |
| 9 |
| Daw ofn ar bawb, a byddant yn adrodd am waith Duw, ac yn deall yr hyn a wnaeth. |
| 10 |
| Bydded i'r cyfiawn lawenhau yn yr ARGLWYDD, a llochesu ynddo, a bydded i'r holl rai uniawn orfoleddu. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/064.mp3
150
64