×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 64

1
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Gwranda arna i, O Dduw, wrth i mi swnian. Amddiffyn fi rhag y gelynion sy'n ymosod.
2
Cuddia fi oddi wrth y mob o ddynion drwg; y gang sydd ddim ond am godi twrw.
3
Maen nhw'n hogi eu tafodau fel cleddyfau, ac yn anelu eu geiriau creulon fel saethau.
4
Maen nhw'n cuddio er mwyn saethu'r dieuog — ei saethu'n ddi-rybudd. Dŷn nhw'n ofni dim.
5
Maen nhw'n annog ei gilydd i wneud drwg, ac yn siarad am osod trapiau, gan feddwl, “Does neb yn ein gweld.”
6
Maen nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd, “Y cynllun perffaith!” medden nhw. (Mae'r galon a'r meddwl dynol mor ddwfn!)
7
Ond bydd Duw yn eu taro nhw gyda'i saeth e; yn sydyn byddan nhw wedi syrthio.
8
Bydd eu geiriau yn arwain at eu cwymp, a bydd pawb fydd yn eu gweld yn ysgwyd eu pennau'n syn.
9
Bydd pawb yn sefyll yn syfrdan! Byddan nhw'n siarad am beth wnaeth Duw, ac yn dechrau deall sut mae e'n gweithredu.
10
Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD; ac yn dod o hyd i le saff ynddo fe. Bydd pawb sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dathlu.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau