×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 65

1
1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. Cn.0 Mawl sy'n ddyledus i ti, O Dduw, yn Seion;
2
ac i ti, sy'n gwrando gweddi, y telir adduned.
3
Atat ti y daw pob un 'i gyffes o bechod: "Y mae ein troseddau'n drech na ni, ond yr wyt ti'n eu maddau."
4
Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos, iddo gael preswylio yn dy gynteddau; digoner ninnau daioni dy du375?, dy deml sanctaidd.
5
Mewn gweithredoedd ofnadwy yr atebi ni buddugoliaeth, O Dduw ein hiachawdwriaeth; ynot yr ymddiried holl gyrion y ddaear a phellafoedd y mr;
6
gosodi'r mynyddoedd yn eu lle 'th nerth, yr wyt wedi dy wregysu chryfder;
7
yr wyt yn tawelu rhu'r moroedd, rhu eu tonnau, a therfysg pobloedd.
8
Y mae trigolion cyrion y byd yn ofni dy arwyddion; gwnei i diroedd bore a hwyr lawenhau.
9
Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau, gwnaethost hi'n doreithiog iawn; y mae afon Duw'n llawn o ddu373?r; darperaist iddynt u375?d. Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer:
10
dyfrhau ei rhychau, gwastatu ei chefnau, ei mwydo chawodydd a bendithio'i chnwd.
11
Yr wyt yn coroni'r flwyddyn 'th ddaioni, ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster.
12
Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu, a'r bryniau wedi eu gwregysu llawenydd;
13
y mae'r dolydd wedi eu gwisgo defaid, a'r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio ag u375?d. Y maent yn bloeddio ac yn gorfoleddu.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau