×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 65

1
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. Cân. [1] Safwn yn dawel, a dy addoli yn Seion, O Dduw; a chyflawni'n haddewidion i ti.
2
Ti sy'n gwrando gweddïau, boed i bob person byw ddod atat ti!
3
Pan mae'n holl bechodau yn ein llethu ni, rwyt ti'n maddau'r gwrthryfel i gyd.
4
Y fath fendith sydd i'r rhai rwyt ti'n eu dewis, a'u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml. Llenwa ni â bendithion dy dŷ, sef dy deml sanctaidd!
5
Ti'n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau'n iawn, a'n hateb O Dduw, ein hachubwr. Mae pobl drwy'r byd i gyd, ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti.
6
Ti, yn dy nerth, roddodd y mynyddoedd yn eu lle; Rwyt ti mor gryf!
7
Ti sy'n tawelu'r môr stormus, a'i donnau gwyllt, a'r holl bobloedd sy'n codi terfysg.
8
Mae pobl ym mhen draw'r byd wedi eu syfrdanu gan dy weithredoedd. O'r dwyrain i'r gorllewin maen nhw'n gweiddi'n llawen.
9
Ti'n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio a'i gwneud yn hynod ffrwythlon. Mae'r sianel ddwyfol yn gorlifo o ddŵr! Ti'n rhoi ŷd i bobl drwy baratoi'r tir fel yma.
10
Ti'n socian y cwysi ac mae dŵr yn llifo i'r rhychau. Ti'n mwydo'r tir â chawodydd, ac yn bendithio'r cnwd sy'n tyfu.
11
Dy ddaioni di sy'n coroni'r flwyddyn! Mae dy lwybrau'n diferu digonedd!
12
Mae hyd yn oed porfa'r anialwch yn diferu, a'r bryniau wedi eu gwisgo â llawenydd!
13
Mae'r caeau wedi eu gorchuddio gyda defaid a geifr, a'r dyffrynnoedd yn gwisgo mantell o ŷd. Maen nhw'n gweiddi ac yn canu'n llawen.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau